Llogi’r lleoliad

 

Mae Coedwig Woodhouse yn leoliad gwych ar gyfer gweithdai, partion a gweithgareddau coedwig. Gall ein tai crwn gynnig lleoliad bendigedig a digon o gysgod rhag tywydd diflas, digon o le i wersylla a chegin farbeciw. Mae’r cyfleusterau yn hyblyg ac yn arbennig o addas ar gyfer addysg awyr agored ac achlysuron arbennig megis priodasau.

Os oes diddordeb gennych i logi’r lle yna rhowch ganiad i ni ar 01994 231821 a pheidiwch anghofio y gallwch ymweld a’r lle unrhywbryd.