Cyflwyniad

Mae Coedwig Woodhouse yn 80 o erwau o dir coediog hynafol. Coed derw sydd yno fwyaf ond mae hefyd enghreifftiau o goed y wernen, bedw, yr onnen a choed helyg. Mae’r isdyfiant yn cynnwys coed cyll, y gelygen a’r gerddinen ac ar lawr ceir gorchudd o fieri, rhedyn, llus, llawrhedyn a mwswg. Ym mis Mai, mae sawl erw yn creu carped o glychau’r gog. Mae can mlynedd ers dod i ben a thorri’r coed er mwyn y pren a chlirio’r goedwig cyn cefnu arni a’i gadael i dyfu’n ol mewn esgeulustod llwyr ers hynny. Mae bellach yn ddryswch trwchus o goed main, mae’n hafan i fywyd gwyllt y coed ond gwaetha’r modd yn segur ar y cyfan o ran pren graenus.

Yr ydym wedi cychwyn rheoli’r goedwig mewn modd a fydd yn galluogi cenedlaethau’r dyfodol i fedi yn gynhaliol bren o ansawdd da. Ar hyn o bryd yr ydym yn raddol denhau’r coed, ac yn torri i lawr fel bod angen. Mae ein adeiladau yn defnyddio pyst gwinglyd o dderw gwyrdd ond mae gennym hefyd felin lifio fach, ffwrn i sychu’r byrddau sydd wedi eu llifio a pheiriannau gweithdy ar gyfer llifio, llyfnhau a gorffen y ‘styllod hyn. Weithiau, yr ydym yn cynhyrchu golosg ac mae gennym lawer o goed tan.

Mae Coedwig Woodhouse hefyd yn gartref i dri mochyn a dau ferlyn ac yn agor i’r cyhoedd sydd am fynd am dro ar bob adeg o’r flwyddyn. Gall y map yn ein Caban Croeso fod o gymorth i gynllunio’ch taith, mae wedi ei baentio ar groen carw a gafodd ei ladd ar yr A477. Mae llwybrau da drwy’r goedwig ond maent yn gallu bod yn serth mewn mannau. Mae meysydd parcio wrth y fynedfa i’r goedwig, y tu allan i’r dderbynfa/gweithdy ac yn ymyl y llanerch ar gopa’r goedwig. Heblaw i chi gael eich gwahodd i wneud yn wahanol, gadewch eich cerbyd yn y safle parcio wrth y fynedfa, yn ymyl y Caban Croeso, a cherddwch.

Ar gopa’r goedwig, fe welwch lanerch gwrachod wedi ei amgylchynnu a choed wedi eu plethu mewn dull rhyfedd, gan ychwanegu at hud y man agored. Yma, yr ydym wedi adeiladu dau dy crwn hyfryd sydd bron yn ymddangos fel petaent wedi tyfu yno’n naturiol! Maent wedi eu hadeiladu o ‘styllod derw wedi’u plygu, pinnau coed, hoelion ac a saerniaeth fedrus. Mae’r toeon wedi eu ffurfio o dywarchen a rhedyn a gan fod haenen o blastig cuddiedig arnynt hefyd rhag y glaw, maent yn cynnig lloches glud ar gyfer y gweithgareddau amrywiol a gynhelir yng Nghoedwig Woodhouse. Mae’r cyfleusterau ar gael i’w llogi ac mae’n leoliad unigryw ac ysbrydoledig ar gyfer sawl achlysur.

Ers 2002, ni yw Cymuned Cydweithredol Coedwig Woodhouse. Yr ydym yn gweithredu fel grwp a chwmni cofrestredig gwirfoddol a di-elw. Mae rhai ohonom yn grefftwyr ac artistiaid mewn cysylltiad llac yn dathlu prydferthwch y goedwig a’r myrdd o ddefnydd a wneir ohoni. Ar y cyfan ac yn syml yr ydym yn bobl sydd wedi dod i adnabod y goedwig dros y blynyddoedd diwethaf ac yn credu yn ei daioni. Mae ’na yn agos at 40 ohonom ac mae rhai yn ein plith wedi gweithio a chwarae yn y goedwig dros y10 mlynedd ddiwethaf. Mae croeso i chi i gysylltu a ni ag unrhyw ymholiadau neu gallwch ddod i edrych o gwmpas.

Mae’n hawdd dod yma. Cymerwch yr A477 (heol Dinbych y Pysgod) am dair milltir i’r gorllewin o San Cler, trowch i’r chwith i gyfeiriad Y Felin Newydd gyferbyn a chaffi pen ffordd yr Hen Felin. Croeswch y bont fach garreg a throwch yn syth ar y dde i mewn i’r goedlan.